LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2026)
Allgofnodi
Mewngofnodi
LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Croeso.
Adnodd ymchwil ar gyfer cyhoeddiadau mewn amryw ieithoedd a gynhyrchir gan Dystion Jehofa yw hwn.
Er mwyn lawrlwytho cyhoeddiadau, dos at jw.org.
  • Heddiw

Dydd Gwener, Hydref 16

Peidiwch hyd yn oed meddwl amdani; peidiwch mynd yn agos ati.—Diar. 7:25.

Mae’r hanes hwn yn dangos beth all ddigwydd i unrhyw un sy’n addoli Jehofa. Efallai y byddai rhywun sy’n pechu’n ddifrifol wedyn yn teimlo bod popeth wedi digwydd yn sydyn neu’n annisgwyl. Ond eto, petasai’n meddwl am beth ddigwyddodd, mwy na thebyg byddai’n gweld bod cymryd rhai camau annoeth wedi arwain at ei bechod. Efallai dewisodd ffrindiau neu adloniant drwg, neu fynd i lefydd neu wefannau sy’n anaddas i Gristnogion. Efallai roedd wedi stopio gweddïo, darllen y Beibl, mynychu cyfarfodydd, neu fynd ar y weinidogaeth. Fel y dyn ifanc yn Diarhebion, efallai doedd ei bechod ddim mor annisgwyl wedi’r cwbl. Beth ydy’r wers inni? Mae’n rhaid inni osgoi nid yn unig y pechod ond hefyd y camau sy’n arwain at y pechod. Mae Solomon yn gwneud y pwynt hwnnw ar ôl rhoi’r hanes.—Math 5:​29, 30. w24.07 16 ¶10-11

Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd—2026

Dydd Sadwrn, Hydref 17

Mae gynnon ni’r trysor hwn sydd mewn llestri pridd.—2 Cor. 4:7.

Beth ydy’r trysor hwn? Y gwaith o bregethu neges y Deyrnas sy’n achub bywydau. (2 Cor. 4:1) Beth ydy’r llestri pridd? Gweision Jehofa sy’n mynd â’r newyddion da i eraill. Yn nyddiau Paul, roedd masnachwyr yn defnyddio jariau clai i gario nwyddau gwerthfawr, fel gwin, bwyd, ac arian. Yn yr un modd, mae Jehofa wedi gofyn inni fynd â’r neges werthfawr hon am y newyddion da i bobl. Gyda chefnogaeth Jehofa, gallwn ni gael y cryfder i fynd â’r neges hon i eraill. Weithiau, gall ofn dyn neu ofn cael ein gwrthod effeithio arnon ni. Sut gallwn ni drechu hyn? Cofia beth ddywedodd yr apostolion pan gawson nhw eu gorchymyn i beidio â phregethu. Yn hytrach nag ildio i’r ofn, gofynnon nhw am help Jehofa i barhau i siarad yn hyderus. Atebodd Jehofa eu gweddi ar unwaith. (Act. 4:​18, 29, 31) Dylen ni hefyd weddïo ar Jehofa i’n helpu ni i garu pobl er mwyn trechu ofn dyn. w24.04 16 ¶8-9

Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd—2026

Dydd Sul, Hydref 18

Ein Tad yn y nefoedd, gad i dy enw gael ei sancteiddio.—Math. 6:9.

Mae ein cariad at Jehofa yn ein cymell ni i sancteiddio ei enw. Rydyn ni eisiau gwneud ein rhan i glirio enw Jehofa o gelwyddau Satan. (Gen. 3:​1-5; Job 2:4; Ioan 8:44) Yn ein gweinidogaeth, rydyn ni’n awyddus i siarad o blaid Duw a dweud y gwir amdano wrth bawb sy’n barod i wrando. Ein dymuniad yw i bawb deall mai cariad ydy prif rinwedd Duw, bod ei ffordd o reoli’n gyfiawn, a bydd ei Deyrnas yn cael gwared ar ddioddefaint a dod â heddwch a hapusrwydd i ddynolryw. (Salm 37:​10, 11, 29; 1 Ioan 4:8) Rydyn ni’n sancteiddio Jehofa drwy amddiffyn ei enw yn y weinidogaeth, ac rydyn ni’n cael yr hapusrwydd sy’n dod o wneud beth sy’n iawn fel ei Dystion. w24.05 18 ¶12

Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd—2026
Croeso.
Adnodd ymchwil ar gyfer cyhoeddiadau mewn amryw ieithoedd a gynhyrchir gan Dystion Jehofa yw hwn.
Er mwyn lawrlwytho cyhoeddiadau, dos at jw.org.
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2026 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu